Mae prosiect Iwerddon Cymru CHERISH yn dechrau astudiaeth gyffrous newydd o Gaer Arfordirol Dinas Dinlle yng Ngwynedd
Mae prosiect archaeolegol cyffrous newydd wedi dechrau i astudio caer arfordirol drawiadol Dinas Dinlle ger Caernarfon yng ngogledd Cymru. Mae mapiau cynnar a siâp yr amddiffynfeydd yn awgrymu bod y gaer wedi’i hamgáu’n llwyr ar un adeg, ond erbyn heddiw mae rhannau o’r amddiffynfeydd gorllewinol wedi’u colli i’r môr ar ôl miloedd o flynyddoedd o erydu arfordirol.
Ychydig sy’n hysbys am y gaer. Credir ei bod yn perthyn i’r cyfnod cynhanesyddol diweddar ac mae ambell ddarganfyddiad yn awgrymu iddi gael ei meddiannu gan y Rhufeinwyr hefyd. Ar ddechrau’r 20fed ganrif roedd yn rhan o gwrs golff, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd amddiffynfa danddaearol, ffos ‘wylan’ a gwylfa eu hadeiladu ar y llethrau gogleddol i amddiffyn RAF Llandwrog – sydd bellach yn Faes Awyr Caernarfon.
Mae’r gwaith ymchwil newydd yn cael ei arwain gan dîm o archaeolegwyr, syrfëwyr, daearyddwyr a gwyddonwyr o’r prosiect CHERISH (prosiect ar newid hinsawdd a threftadaeth ddiwylliannol) sy’n cael ei ariannu gan yr UE. Yn ystod y 4 blynedd nesaf bydd y tîm CHERISH yn ymgymryd â nifer o astudiaethau i gofnodi a monitro effaith erydiad arfordirol a gwella dealltwriaeth o’r gaer a’r tir o’i chwmpas.
Meddai Louise Barker, uwch archaeolegydd ar y prosiect CHERISH: ‘Dyma un o’r safleoedd arfordirol gwychaf yng ngogledd Cymru, ond mae erydiad cyson yn fygythiad mawr iddo. Drwy ein gwaith rydym ni’n gobeithio dysgu pryd y cafodd Dinas Dinlle ei hadeiladu a’i meddiannu a faint sydd wedi’i golli i’r môr.’
Fel rhan o’i waith cychwynnol, bu’r tîm CHERISH yn tynnu awyrluniau newydd er mwyn creu model 3D o’r heneb ac yn gwneud arolwg manwl newydd i helpu i ddehongli’r safle drwy wella dealltwriaeth o ddatblygiad, ffurf a chyflwr y gaer. Hefyd ariannwyd arolwg geoffisegol newydd, a wnaed gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, i weld o dan y pridd.
Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys casglu data 3D hynod fanwl (centimetr ac is-gentimetr) i fonitro ymyl y clogwyn sy’n erydu, gan ddefnyddio technolegau fel sganio laser daearol ac arolygu gan ddrôn. Bydd hyn yn darparu man cychwyn manwl gywir ar gyfer monitro yn y dyfodol, a thrwy ddadansoddi dogfennau hanesyddol megis awyrluniau a mapiau mae’r tîm yn gobeithio ailgreu mor fanwl â phosibl gyfraddau erydu yn ystod y 150 o flynyddoedd diwethaf. Drwy wneud gwaith creiddio a samplu yn y cyffiniau i geisio data palaeoamgylcheddol, ac astudio hen bapurau newydd a chofnodion stad, bydd hefyd yn ailgreu amgylchedd y gorffennol a hanes tywydd yr ardal.
Bydd y tîm CHERISH yn gweithio’n agos â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar y safle. Meddai Andy Godber, Rheolwr Gweithrediadau Llŷn yr Ymddiriedolaeth: ‘Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous yma. Mae Dinas Dinlle yn enghraifft berffaith o’r modd y mae newid hinsawdd yn bygwth ein harfordir. Ein polisi addasu arfordirol ar gyfer Dinas Dinlle yw derbyn y bydd y safle pwysig yma yn cael ei golli. Drwy fod yn rhan o’r prosiect CHERISH byddwn yn dysgu mwy am weithgareddau dyn yma ar hyd y canrifoedd, tra bo hynny’n dal yn bosibl.’
Ynghylch CHERISH
Prosiect Iwerddon-Cymru pum mlynedd o hyd yw CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd). Y partneriaid yw Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac Arolwg Daearegol Iwerddon. Bydd y prosiect yn derbyn €4.1 miliwn drwy Raglen Iwerddon Cymru 2014-2020. Dechreuodd ym mis Ionawr 2017.
Nod CHERISH yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd, stormydd a thywydd garw ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog moroedd rhanbarthol ac arfordiroedd Iwerddon a Chymru yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos. Bydd yn defnyddio technegau arloesol – sganio laser ar y ddaear ac o’r awyr, arolygon geoffisegol, mapio gwely’r môr, samplu palaeoamgylcheddol, cloddiadau a monitro llongddrylliadau – i astudio rhai o’r lleoliadau arfordirol mwyaf eiconig yn Iwerddon a Chymru.
Darganfyddwch fwy am y prosiect CHERISH yma http://www.cherishproject.eu/en/ a dilynwch y prosiect ar Facebook @CherishProject a Twitter @CHERISHproj er mwyn cael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am weithgareddau.
I gael mwy o wybodaeth am brosiect Dinas Dinlle cysylltwch â cherish@rcahmw.gov.uk
Louise Barker (CBHC Uwch Ymchwilydd) 01970 621212