Sefydlodd pedwar sefydliad o'r radd flaenaf o Gymru ac Iwerddon gynghrair gyffrous i arwain y ffordd wrth ddatblygu gofal iechyd arloesol.

Mae’r Gynghrair Geltaidd dros NanoIechyd (CAN), sy’n werth £1 miliwn, wedi  helpu cwmnïau o bob tu i Fôr Iwerddon aros ar flaen y gad o ran arloesi a thwf a hynny mewn sector gofal iechyd dylanwadol sy’n datblygu’n gyflym.

Arweiniodd Prifysgol Abertawe'r gynghrair, gyda chymorth o £765,000 o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop o dan y rhaglen Drawsffiniol Iwerddon Cymru 2007-2013.

A hithau wedi’i lleoli yng Nghanolfan NanoIechyd y Brifysgol - creodd y bartneriaeth gronfa o adnoddau gyda thri sefydliad yn Nulyn. Mae gan bob un o’r rhain feysydd arbenigedd penodol mewn nanoIechyd, gan gynnwys Canolfan Rhyngweithio BioNano Prifysgol Dulyn, Sefydliad Meddyginiaethau Moleciwlaidd  a Chanolfan Nano-strwythurau a Nano-ddyfeisiau Ymaddasol (CRANN)  Coleg y Drindod, Dulyn a Sefydliad Diagnosteg Fiofeddygol a Chanolfan Nanobioffontoneg a Delweddu  Prifysgol Dinas Dulyn.

Oherwydd y Gynghrair fach llwyddodd cwmnïau bach i ganolig sydd â diddordeb mewn datblygu technoleg nanoIechyd i gael mynediad i adnoddau blaenllaw yn ogystal â'r cyfle i greu cysylltiadau â darpar fuddsoddwyr.

O dan y prosiect mae ymchwil wedi’i gwneud i ganfod ffyrdd newydd o sgrinio ar gyfer clefydau gan ddefnyddio nanotechnolegau, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiadau mewn gofal a diogelwch cleifion, a gwella cyflymder y broses o droi datblygiadau newydd yn fuddion i’r claf.

Er enghraifft, mae nano-ddyfeisiau a nano-biosynwyryddion yn caniatáu canfod a mesur biofarcwyr mewn hylif neu samplau meinwe ar lefel o sensitifrwydd sy’n llawer mwy soffistigedig na’r dulliau presennol, gan helpu i ganfod a thrin  amrywiaeth eang o glefydau gan gynnwys canser a chlefyd y galon.

Yn benodol, drwy CAN, gwerthusodd Prifysgol Abertawe (yr Athro Paul Lewis) a Phrifysgol Dinas Dulyn (yr Athro Robert Forster) y defnydd o ddadansoddiadau arbenigol ar fwcws cleifion er mwyn  canfod canser yr ysgyfaint.

Dywedodd yr Athro Steven Conlan, Arweinydd Prosiect CAN, Prifysgol Abertawe:

"Mae sefydlu clwstwr trawsffiniol cydgysylltiedig wedi cynorthwyo i greu cynghrair o'r radd flaenaf o arweinwyr allweddol, ymchwilwyr rhyngwladol nodedig a seilwaith modern.

"Maes sy'n prysur ddatblygu ac sy’n parhau i dyfu'n gyflym i ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol yw nanoIechyd, ac mae CAN wedi effeithio'n uniongyrchol ar ffyniant economaidd drwy drosglwyddo arloesiadau o sefydliadau addysg uwch i fyd diwydiant. Er enghraifft, mae PulmonIR, BBaCh o Gymru, a sefydlwyd gan yr Athro Paul Lewis, yn hyrwyddo ymchwil i fonitro cleifion clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint."

Gan adeiladu ar lwyddiant partneriaeth CAN Abertawe-Dulyn, mae rhaglen Iwerddon-Cymru gwerth  €9m, sef CALIN (y Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch) wedi cael ei sefydlu.  Unwaith eto, o dan arweiniad Prifysgol Abertawe, bydd partneriaid CALIN yn Nulyn, Cork, Galway, Caerdydd a Bangor yn parhau i fwrw ymlaen â datblygiadau ym maes  gwyddorau bywyd o dan raglen gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020.