CHERISH

Bydd CHERISH (Climate Heritage & Environments of Reefs, Islands and Headlands) yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws ffiniau o’r effeithiau y mae’r newid yn yr hinsawdd a thywydd tymhestlog ac eithafol yn eu cael ar dreftadaeth ddiwylliannol riffiau, ynysoedd a phentiroedd ym Môr Iwerddon. Bydd effeithiau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos i gyd o dan y chwyddwydr.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar y bylchau sy’n bodoli mewn data ac mewn gwybodaeth reoli, gan ddefnyddio technegau arloesol i ddarganfod, asesu, mapio a monitro asedau treftadaeth ar y tir ac o dan y môr. Bydd yn codi ymwybyddiaeth ynghylch sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar dreftadaeth; gan hyfforddi dinasyddion sy’n ymddiddori mewn gwyddoniaeth a sicrhau bod unrhyw ganlyniadau’n cyrraedd cynulleidfa eang. Bydd hefyd yn mynd ati i ddatblygu’r arferion gorau a chanllawiau, gan wneud argymhellion ar gyfer addasu yn y dyfodol. 
 

Cyllideb

Partner ERDF (€) Total Project Budget (€)
RCAHMW 1,221,704 1,527,963
The Discovery Programme 999,336 1,249,863
Prifysgol Aberystwyth 922,929 1,154,307
Geological Survey of Ireland 1,000,868 1,251,780

Lleoliad y Gweithgaredd

Manylion cyswllt y Partneriaid

Oriel