Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, heddiw  yn cyhoeddi cynllun peilot gwerth €1.7m i helpu busnesau yng Nghymru ac Iwerddon i arloesi yn sectorau'r gwyddorau bywyd a bwyd a diod.

1 Mawrth 2018
Gyda chefnogaeth €1.3m o nawdd gan yr UE, bydd y prosiect Catalyst yn dod â phartneriaid bob ochr i Fôr Iwerddon ynghyd i ddatblygu cynnyrch a phrosesau newydd. 

Bydd y cynllun yn gweithio â 60 o fusnesau i ddatblygu cynnyrch arbenigol newydd, i gael hyd i farchnadoedd newydd ac i sicrhau bod y deunydd pacio am gynnyrch yn dod o ffynonellau cynaliadwy ac mor fach â phosib. 

Yr amcan yw helpu busnesau i dyfu a chreu cyfleoedd gwaith newydd. 

Gyda chymorth y Rhaglen Gydweithredol rhwng Iwerddon a Chymru a noddir gan yr UE, arweinydd y prosiect yw Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ynghyd â WRAP Cymru, yr Institute of Technology Carlow, Tipperary County Council a Carlow County Council.

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: 

"Mae'n wych gweld sut mae partneriaid bob ochr i Fôr Iwerddon yn cydweithio i gynyddu cynaliadwyedd a hybu dylunio ac arloesi sy'n arwain at leihau gwastraff ac at wneud busnesau'n fwy cystadleuol ac yn fwy abl i arallgyfeirio a chyrraedd marchnadoedd newydd." 

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Gwariant a Diwygio Cyhoeddus, Paschal Donohoe T.D.: 

"Mae'n dda iawn gweld cychwyn prosiect arall o dan Raglen Iwerddon Cymru. Mae'r prosiect Catalyst yn enghraifft wych o'r modd y gall arian yr UE sbarduno arloesedd a chefnogi ymchwil a datblygu yn y sector busnesau bach a chanolig ar draws ffiniau." 

Mae'r cynllun yn ceisio datrys nifer o'r problemau all rhwystro busnes rhag datblygu cynnyrch a phrosesau mewn meysydd fel dyfeisiau meddygol a bwyd ar gyfer iechyd a lles. 

Caiff gweithdai eu cynnal trwy'r prosiect lle caiff busnesau o'r ddau sector weithio ar y cyd i chwilio am gyfleoedd datblygu cynaliadwy. Bydd y busnesau hynny'n cael mynd wedyn ar raglen arloesi breswyl gyda staff academaidd a phartneriaid arbenigol i greu cynnyrch a phrosesau newydd, cynaliadwy ac arloesol. 

Dywedodd Rheolwr Prosiect Catalyst, Chris Holtom: 

"Mae Catalyst yn adeiladu ar brosiectau llwyddiannus eraill sydd wedi'u cynnal rhwng Cymru ac Iwerddon. Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at weithio gyda busnesau o Gymru ac Iwerddon i'w helpu i ddatblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd a chynaliadwy ac i greu swyddi."