Mae prifysgolion yng Nghymru ac Iwerddon yn dod at ei gilydd i weld sut y gellid gwella amddiffynfeydd arfordiroedd a chynlluniau ynni adnewyddadwy drwy greu strwythurau  mwy ecogyfeillgar.

Mae dros €3m o gyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi yn y prosiect Ecostructure, a fydd yn datblygu ac yn treialu dulliau newydd, sy’n fwy ecolegol sensitif, ar gyfer gwella ansawdd strwythurau arfordirol, gan gynnwys môr-gloddiau a môr-lynnoedd llanw.

Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu drwy raglen gydweithredu Iwerddon-Cymru, sy’n cryfhau cysylltiadau economaidd ac yn creu cyfleoedd i’r ddwy wlad weithio ar y cyd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford: 

“Mae prosiectau trawsffiniol rhwng Cymru ac Iwerddon yn bwysig am eu bod yn tynnu ynghyd arbenigedd o’r ddwy wlad er mwyn ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n berthnasol i’r ddwy ochr o Fôr Iwerddon.

“Bydd Prifysgol Aberystwyth a’i phartneriaid yn cael dros €3m o gyllid yr UE ar gyfer gweithredu’r prosiect hwn. Mae hyn yn enghraifft arall o’r manteision a fyddai’n dod i Gymru o gael bod yn rhan o raglenni cydweithredu Ewropeaidd ar ôl inni ymadael â’r UE.”

Bydd y buddsoddiad yn y prosiect Ecostructure yn helpu i foderneiddio datblygiadau arfordirol yn y dyfodol; creu cyfleoedd busnes newydd ar gyfer cwmnïau lleol; a gwella dulliau o warchod bywyd gwyllt ac ecosystemau lleol.

Caiff y prosiect ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Corc a Phrifysgol Abertawe.

Dywedodd Dr Joe Ironside, o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth: 

“Er mwyn inni allu ymateb yn effeithiol i dywydd sy’n mynd yn fwyfwy stormus, a’r ffaith bod lefel y môr yn codi, yn ogystal â’r angen i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a chynaliadwy, mae’n debygol y bydd  angen cynyddu nifer y strwythurau ar hyd arfordiroedd Môr Iwerddon.

“Yng Nghymru ac Iwerddon, rydyn ni’n dibynnu ar hyn o bryd ar amddiffynfeydd artiffisial i ddiogelu ein dinasoedd, trefi a chysylltiadau teithio pwysicaf rhag llifogydd a stormydd.

“Ar y cyfan cynefinoedd gwael i fywyd gwyllt yw’r strwythurau hyn, ond mae gan y beirianneg ecogyfeillgar y byddwn ni’n ei threialu bosibiliadau mawr o ran gwella’r seilwaith arfordirol gan warchod ecosystemau a bywyd y môr ar yr un pryd.”