Mae papur polisi pwysig gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, wedi galw unwaith eto ar i Lywodraeth y DU negodi i fedru parhau i gymryd rhan mewn rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, megis rhaglen Iwerddon Cymru, fel rhan o'r berthynas newydd rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit. 

Mae Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit yn rhan o gyfres o bapurau Diogelu Dyfodol Cymru sy'n gosod gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru y tu allan i'r UE.

Y papur hwn yw'r cam cyntaf yn y broses o lunio ffordd newydd o edrych ar bolisi buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, ac mae'n nodi rhai cynigion adeiladol a fydd yn sail i drafodaethau gyda phartneriaid ar draws Cymru dros y misoedd nesaf.

Yn y papur, mae Llywodraeth Cymru yn galw unwaith eto ar i Lywodraeth y DU negodi i fedru parhau i gymryd rhan mewn rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, fel rhaglen Iwerddon Cymru, yn ogystal â Horizon 2020, ERASMUS+ a rhaglenni UE eraill y mae Cymru'n manteisio arnynt ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweld ei pherthynas ag Iwerddon fel un werthfawr tu hwnt, ac wedi dweud yn glir ei bod am weld y rhaglen Iwerddon Cymru'n parhau yn y tymor hir ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad diweddar ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd ar Gam 1 negodiadau Erthygl 50, sy'n awgrymu bod y drws yn parhau i fod ar agor i gymryd rhan yn rhaglenni'r UE yn y dyfodol fel rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd a Horizon 2020, a bydd angen i ni barhau i ddadlau'r achos dros bob un ohonynt. 

Cyfle i ddweud eich dweud

Mae digwyddiadau trafod am y cynigion sy'n cael eu nodi yn y papur Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit wedi'u trefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd (18 Ionawr yn y Gogledd a 25 Ionawr yn y De). 

Mae cyfres o gwestiynau i'w hateb ac arolwg byr ar-lein hefyd yn cael eu cyhoeddi heddiw er mwyn helpu i lywio'r trafodaethau hyn.