Cyhoeddwyd cynllun gwerth €6.7m, gyda chymorth yr Undeb Ewropeaidd, i fynd i’r afael ag effeithiau llygredd ar ddyfroedd ymdrochi yng Nghymru ac Iwerddon. Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford a Gweinidog Llywodraeth Iwerddon dros Wariant Cyhoeddus a Diwygio, Paschal Donohoe [10.03.17].

Bydd y prosiect Acclimatize yn helpu i wella ansawdd y glannau yn y ddwy wlad, a bydd hynny yn ei dro yn hybu twristiaeth a gweithgareddau morol, gan gynnwys casglu pysgod cregyn.

Project dan arweiniad Coleg Prifysgol Dulyn mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth yw hwn. Bydd yn canfod ffynonellau llygredd a’u heffaith ar ddyfroedd ymdrochi o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd.

Mae’r prosiect wedi cael €5.3m o gymorth ariannol trwy raglen gydweithredu Iwerddon-Cymru yr Undeb Ewropeaidd, a bydd yn defnyddio ac yn datblygu amrywiaeth o dechnolegau, gan gynnwys offer rhagfynegol amser-real i fonitro ansawdd y dŵr er mwyn diogelu iechyd pobl ac amgylchedd y môr.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

“Mae’n hollbwysig bod amgylchedd y môr a’r arfordir yng Nghymru ac Iwerddon yn cael ei warchod a’i wella fel ei fod ar gael i bobl ei fwynhau yn awr ac yn y dyfodol, yn ogystal ag er mwyn hybu’r economi.

“Dyma enghraifft arall o’r modd y mae cronfeydd yr UE yn helpu economïau a chymunedau lleol trwy helpu i leddfu effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.”

Bydd y prosiect Acclimatize yn canolbwyntio ar ddyfroedd ymdrochi, gan gynnwys Bae Dulyn, Bae Cemaes ym Môn a thraethau eraill. Bydd modelau amser-real yn cael eu datblygu i ddangos effaith y newid yn yr hinsawdd, er enghraifft newid ym mhatrymau’r tywydd, sy’n effeithio ar y glaw, y tymheredd a’r llanw mewn ardaloedd arfordirol.

Dywedodd y Gweinidog dros Wariant Cyhoeddus a Diwygio, Paschal Donohoe:

“Mae’r prosiect Acclimatize yn gyfraniad pwysig tuag at wella ansawdd a chynaliadwyedd economaidd yr adnodd sy’n gyffredin inni, sef Môr Iwerddon. Mae’n galonogol gweld bod prosiectau trawsffiniol fel hyn, gyda chymorth ariannol yr UE, yn parhau. Mae Llywodraeth Iwerddon wedi ymrwymo i barhau i weithredu rhaglen Iwerddon-Cymru.”

Dywedodd yr Athro Wim Meijer o Goleg Prifysgol Dulyn:

“Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, bydd y prosiect Acclimatize yn gwneud cyfraniad sylwedd ôl at ddatblygu systemau rheoli arloesol i ddiogelu ein dyfroedd arfordirol rhag effaith y newid yn yr hinsawdd.

“Bydd hyn yn hybu twf economaidd trwy wella ansawdd y dŵr, a bydd hynny’n dod â nifer o fanteision yn ei sgil - er enghraifft mwy o dwristiaeth a mwy o gasglu pysgod cregyn yng Nghymru ac Iwerddon.”