Ar drothwy’r gêm ragbrofol hollbwysig ar gyfer Cwpan y Byd yng Nghaerdydd, mae Cymru ac Iwerddon wedi ymuno â'i gilydd mewn menter newydd i ehangu rôl clybiau pêl-droed yn y ddwy wlad.

Mae mwy na €1 miliwn o arian yr UE yn cael ei fuddsoddi mewn partneriaeth rhwng y sefydliad chwaraeon Vi-Ability yng Nghymru a Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon i elwa ar boblogrwydd pêl-droed drwy droi clybiau lleol yn fentrau cymdeithasol sy'n cyflwyno amrywiaeth o raglenni addysgol a gwyddorau bywyd sydd wedi'u seilio ar chwaraeon.

Bydd y fenter 'Mwy na Chlwb' yn cael ei pheilota dros y ddwy flynedd nesaf gan bedwar clwb yng Nghymru ac Iwerddon. Mae Hwlffordd, Cork City a Bohemian FC yn Nulyn eisoes wedi llofnodi i gymryd rhan.

Cefnogir y prosiect gan Raglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon Cymru 2014-2020, sy'n helpu i gryfhau cydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon i fynd i'r afael â heriau economaidd a chymdeithasol sy'n gyffredin rhyngddynt.

Dywedodd Mark Drakeford,  Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru:

" Mae hon yn ffordd greadigol iawn o fynd ati i wella iechyd a lles mewn cymunedau lleol, a bydd yn elwa'n fawr iawn ar y syniadau, yr arbenigedd a'r adnoddau a fydd yn cael eu rhannu ar draws Môr Iwerddon.

"Mae rhaglen gydweithredol Cymru-Iwerddon yn gyfrwng pwysig ar gyfer cydweithio ac mae'n dod â buddsoddiad i'n heconomi ac yn creu cyfleoedd i'n busnesau, ein prifysgolion a'n sefydliadau arbenigol i weithio gyda'i gilydd. Dw i wrth fy modd y bydd €1miliwn o gronfeydd yr UE yn cefnogi prosiect cydweithredol cyffrous arall rhwng ein gwledydd."

Dywedodd Paschal Donohoe T.D., y Gweinidog Cyllid ynghyd â Gwariant Cyhoeddus a Diwygio yn Llywodraeth Iwerddon:

“Mae prosiect ‘Mwy na Chlwb’ yn enghraifft o fanteision ein partneriaeth barhaus drwy raglen Cymru-Iwerddon. Bydd cyllid yr UE yn galluogi’r prosiect hwn i elwa ar arbenigedd sefydliadau yn y ddwy wlad er mwyn cael pobl ifanc i ymgysylltu â menter gymdeithasol drwy bêl-droed.

“Mae Llywodraeth Iwerddon yn gefnogol dros ben i effaith gadarnhaol y cydweithrediad parhaus o dan raglen Cymru-Iwerddon ac rydym yn dal i fod wedi ymroi i’w weithredu’n llwyddiannus.”

Drwy'r prosiect hwn, bydd y clybiau sy'n cymryd rhan yn cyflwyno rhaglenni sy'n canolbwyntio ar y gymuned i wella iechyd corfforol a meddyliol pobl o bob oed, i roi cyfleoedd dysgu amgen i blant ac i gyflwyno rhaglenni cymdeithasol eraill â'r nod o wella ansawdd bywydau pobl yn lleol.

Dywedodd Rheolwr y Prosiect o Gymdeithas Bêl-droed Iwerddon, Derek O'Neill:

 "Mae pêl-droed yn gêm ddeniadol iawn i'w chwarae, ei gwylio ac i siarad amdani i filiynau o bobl, ond gall hefyd fod yn gyfrwng grymus i hyrwyddo iechyd corfforol, datblygiad personol, datblygiad cymunedol a llesiant yn gyffredinol.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon a Vi-Ability wrth eu boddau eu bod wedi sicrhau cyllid gan yr UE i helpu i ehangu rôl pêl-droed yn y gymuned a'i botensial i wneud mwy. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd i gyfnewid syniadau, rhannu adnoddau ac arbenigedd a datblygu model ardderchog i glybiau pêl-droed eraill yn y ddwy wlad geisio'i efelychu."