Mae prosiect arloesol wedi galw ar wirfoddolwyr lleol yng Nghymru ac Iwerddon i gasglu data er mwyn helpu i ddiogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd sydd mewn perygl. Drwy eu hymdrechion, casglwyd gwybodaeth hanfodol sy’n ein helpu i wella bioamrywiaeth yn y rhanbarth.

Drwy’r prosiect Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy (MISE), cafodd prosiectau, arolygon a gweithgareddau cadwraeth eu cynnal i ddysgu am famaliaid megis y bele, y wiwer goch, llygoden yr ŷd, a’r pathew ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon.

Cafodd y gweithgarwch hwn ei gynnal ar y cyd gan Sefydliad Technoleg Waterford, Iwerddon, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn ogystal â Chyngor Swydd Waterford, a’r Ganolfan Data Bioamrywiaeth Genedlaethol. Roedd y prosiect yn bosibl am iddo dderbyn £945,000 o dan raglen drawsffiniol Iwerddon Cymru yr UE 2007-2013.

Drwy brosiect MISE, casglwyd data ar statws presennol pob rhywogaeth unigol, a’u gofynion o ran yr ecosystem, drwy ddefnyddio dadansoddiadau DNA nad yw’n effeithio ar y mamaliaid eu hunain, gan eu bod yn dadansoddi o samplau megis ffwr a baw. O’r dadansoddiad genetig hwn, gellir adnabod y rhywogaeth, y rhyw, a’r unigolyn.

Dywedodd Denise O'Meara, Sefydliad Technoleg Waterford:

“Drwy weithredu fel hyn, roedden ni’n gallu nodi sawl bele sy’n byw ar goetir yn swydd Waterford. Roedden ni wedyn yn gallu llunio mesurau cadwraeth ar gyfer diogelu’r rhywogaeth hon, gan gynnwys gosod blychau ar eu cyfer ar draws eu cynefin. Bydd y bele’n defnyddio blychau pren addas i orffwys a bridio mewn coetir ifanc lle mae cuddfannau yn y coed yn brin.”

Roedd rhan arall o’r prosiect yn ymwneud â cheisio cael tystiolaeth am batrymau mudo ystlumod rhwng Cymru ac Iwerddon, gan nad oes llawer o wybodaeth am eu gweithgarwch mudo yn y DU. Er bod ystlumod yn rhy fach i gario dyfais tracio gan loeren, cafodd y dechnoleg ddiweddaraf sy’n ymwneud ag ystlumod eu gosod ar dair llong fferi sy’n mynd yn ôl ac ymlaen ar draws Môr Iwerddon. Mae’r dechnoleg yn dadansoddi’r seiniau amledd uchel y mae’r ystlumod yn eu gwneud er mwyn creu darlun sain o’u hamgylchedd. Cafodd y data hyn eu defnyddio i adnabod y rhywogaethau o ystlumod a oedd wedi hedfan heibio.

Dywedodd Ms O'Meara:

“Roedd y prosiect hwn yn wahanol i lawer o brosiectau gwyddonol eraill am fod cymunedau lleol yn rhan bwysig ohono. Roedd gwirfoddolwyr yn casglu data ac yn dysgu sut i weld arwyddion bywyd gwyllt, er mwyn ein helpu i ddeall rhai o famaliaid mwyaf prin y rhanbarthau. Mae llawer o grwpiau lleol sy’n ymgyrchu i ddiogelu mamaliaid yn parhau â gwaith y prosiect MISE.”